WQ97560 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gasglu data am bobl sy’n derbyn gofal ar goridorau mewn ysbytai?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 24/10/2025

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo darparu gofal arferol mewn amgylcheddau anglinigol neu anaddas. Cydnabyddir bod gwell adrodd, ymchwilio a gweithredu ar ddigwyddiadau o'r fath yn hanfodol i gefnogi dysgu a gwella ledled y system.

Er mwyn gwella'r llif y cleifion drwy'r system iechyd a gofal, a sicrhau bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fyddant yn barod yn glinigol, bu Llywodraeth Cymru, y GIG, a llywodraeth leol yn cydweithio i leihau oedi yn y llwybrau gofal dros y 12 mis diwethaf. Mae data'n cael eu cyhoeddi bob mis.

Er mwyn helpu i optimeiddio llif y cleifion drwy ysbytai, a sicrhau nad yw'r amser trosglwyddo cleifion o ambiwlansys yn hirach na 45 munud ar draws Cymru, rhoddir ystyriaeth bellach i'n prosesau uwchgyfeirio cenedlaethol a’r angen i gryfhau atebolrwydd drwy'r system galwadau dyddiol cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr wybodaeth a adroddir gan fyrddau iechyd bob dydd, sy'n llywio penderfyniadau uwchgyfeirio gweithredol, megis pan fydd gofal yn cael ei ddarparu mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas i gydbwyso risgiau i'r system ehangach.