WQ97556 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2025

Beth yw’r amserlen ar gyfer gwireddu’r ymrwymiad i gyflwyno fframwaith i alluogi awdurdodau lleol i godi treth trafodion tir uwch ar ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr, gan gwblhau’r pecyn o fesurau yr ymrwymodd y Llywodraeth i’w cyflwyno i reoli’r defnydd o gartrefi fel ail dai a llety gwyliau tymor-byr?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 21/10/2025

Mae'r sefyllfa yn parhau fel y nodwyd yn y llythyr dyddiedig 3 Mawrth, a ddyroddwyd yn enw Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant AS.