WQ97508 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2025

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf, amserlen a chylch gorchwyl yr adolygiad o fframwaith cyfreithiol y Gymraeg yn y Senedd at y dyfodol, yn sgil yr ymrwymiadau wnaed yn y ddadl ar adroddiad blynyddol y cynllun ieithoedd swyddogol ar 9 Gorffennaf 2025?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 10/10/2025

Adam Price AS ar ran Comisiwn y Senedd:

Yn dilyn ystyriaeth o’r galw ar amser ac adnoddau Aelodau cyn diwedd y chweched Senedd,  daethpwyd i’r casgliad mai cynnal arolwg trwy e-bost yw’r dull mwyaf addas o gasglu adborth a barn Aelodau a’u Staff Cymorth am y Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Bwriedir cynnal yr arolwg yn ystod ail hanner y tymor hwn er mwyn osgoi gwrthdaro gydag arolygon eraill sy’n cael eu cynnal. 

Byddwn yn cyfuno’r ymgynghoriad ynghylch y fframwaith cyfreithiol sy’n sail i’r gyfundrefn bresennol o ran ieithoedd Swyddogol gydag arolwg o sgiliau iaith Gymraeg y sawl sy’n ymateb. Rhydd hyn ddarlun i ni o’r sgiliau sy’n bodoli ymysg Aelodau a’u staff cymorth. 

Bydd yr arolwg yn holi ynghylch bodlonrwydd Aelodau a’u staff cymorth ynghylch y Cynllun Ieithoedd Swyddogol fel defnyddwyr gwasanaethau ac o ran y dyletswyddau sydd ar Aelodau yn y Cynllun.

Bydd lle hefyd i gynnig awgrymiadau ar gyfer unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud i’r cynllun presennol. Yn ogystal, bydd cyfle i fynegi barn ar addasrwydd y fframwaith cyfreithiol presennol gan nodi unrhyw gynigion ar gyfer dewisiadau amgen o ran atebolrwydd a chwmpas unrhyw gyfundrefn yn y dyfodol.

Unwaith y byddwn wedi derbyn ymatebion gan Aelodau a’u Staff Cymorth, bydd y Tîm Ieithoedd Swyddogol yn edrych ar ffyrdd o ymgynghori ymhellach, gan gynnwys gyda Staff Comisiwn y Senedd.

Byddwn yn ymdrechu i ymgorffori unrhyw newidiadau arfaethedig i’r fframwaith gyfreithiol yn fuan wedi i Gomisiwn y Seithfed Senedd gael ei sefydlu a thrafod y ffordd ymlaen.