Sut y mae llinell wariant cyllidebau canolog dull gweithredu ysgol gyfan ar gyfer Llesiant ym mhrif grŵp gwariant addysg Cyllideb 2025-26 Llywodraeth Cymru i'w gwario dros y flwyddyn ariannol bresennol?
Mae'r llinell wariant hon yn cefnogi camau gweithredu i weithredu a chyflawni'r gofynion sydd yn ein canllawiau statudol ar gyfer ysgolion, sef y fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol.
Mae’r cyllid yn cefnogi ystod o weithgareddau gan gynnwys dros £3m bob blwyddyn i gefnogi'r ddarpariaeth gwnsela mewn ysgolion, a welodd bron i 14,000 o blant a phobl ifanc yn y flwyddyn academaidd 2023-24. Mae’r cyllid hefyd yn ariannu’r cymorth llesiant ar gyfer y gweithlu addysg a ddarperir drwy Education Support, ymchwil a gwerthuso a arweinir gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i’n galluogi i sicrhau bod gweithgarwch yn cael yr effaith a fwriadwyd, a rhai costau rhaglenni mewnol.
Mae’r cyllid gan y Grŵp Addysg hefyd yn cael ei ategu gan gyllid gan y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.