WQ97425 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2025

Sut y mae llinell wariant cyllidebau canolog cefnogi dysgu digidol mewn Addysg’ ym mhrif grŵp gwariant addysg Cyllideb 2025-26 Llywodraeth Cymru i'w gwario dros y flwyddyn ariannol bresennol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 30/09/2025

Mae'r gyllideb ar gyfer Cefnogi Dysgu Digidol mewn Addysg yn cefnogi camau gweithredu i gyflawni Rhaglen Hwb.

Mae'r gyllideb yn helpu'r holl awdurdodau lleol a'r ysgolion a gynhelir yng Nghymru i fanteisio ar seilwaith digidol diogel a gwasanaethau dwyieithog sydd wedi'u cynllunio i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â chynnig llwyfan digidol i ysgolion.

Mae'r gyllideb yn ariannu gwaith i gyflawni contractau allweddol, swyddi aelodau'r tîm sy'n gyfrifol am reoli platfform Hwb a chyngor arbenigwyr technegol i sicrhau bod platfform Hwb yn bodloni safonau'r diwydiant ac yn cadw dysgwyr yn ddiogel.