Sut y mae llinell wariant cyllidebau canolog cymorth safonau ysgolion ym mhrif grŵp gwariant addysg Cyllideb 2025-26 Llywodraeth Cymru i'w gwario dros y flwyddyn ariannol bresennol?
Mae'r llinell wariant hon yn y gyllideb yn cefnogi anghenion adnoddau ar gyfer parhau i ddatblygu a chyflawni'r gwaith o ddiwygio addysg yng Nghymru a rhoi'r system newydd ar waith. Mae hyn yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig â chyflogi arbenigwyr i roi cyngor a chymorth, er enghraifft, Cynghorwyr ac Ymchwilwyr Proffesiynol. Mae hefyd yn cefnogi costau sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu â rhanddeiliaid, rhaglenni hyfforddi a datblygu, a chostau cyhoeddi; yn ogystal â chyllid ar gyfer Menter Cyfnewid Data Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gallu bodloni eu rhwymedigaethau statudol mewn perthynas â chasglu data.