Sut y mae llinell wariant cyllidebau canolog datblygu a chymorth Athrawon’ ym mhrif grŵp gwariant addysg Cyllideb 2025-26 Llywodraeth Cymru i'w gwario dros y flwyddyn ariannol bresennol?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 30/09/2025
Mae'r llinell wariant hon yn y gyllideb yn ariannu rhaglenni a mentrau i ddatblygu a chefnogi'r gweithlu addysgu, gan gynnwys:
- Rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sy'n cynnwys darparu llwybrau AGA amgen (rhan-amser ac i athrawon ar gyflog), Iaith Athrawon Yfory, Cynlluniau Cymhelliant ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth ac ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, ac ymgyrch gyfathrebu Addysgu Cymru.
- Dysgu, y corff cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, a nifer o raglenni dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, gan gynnwys Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) a Gradd Meistr a Doethuriaeth mewn Addysg.
- Datblygu'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg.
- Gwaith i feithrin gallu’r gweithlu Cymraeg mewn addysg, gan gynnwys y Cynllun Sabothol, rhaglen pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, cynllun grant i feithrin gallu, a chyllid ar gyfer Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG).
- Cyllid ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg, gan gynnwys cyllid ar gyfer Ysgrifenyddiaeth Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB), hyrwyddo gyrfaoedd, rhaglenni cynefino, pasbort dysgu proffesiynol, a chyfraniad at ffioedd cofrestru.
Mae llinell wariant hon y gyllideb hefyd yn ariannu gwaith ymchwil, y Rhaglen Addysg Ryngwladol, a'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid.