Sut y mae llinell wariant cyllidebau canolog cwricwlwm ac asesu ym mhrif grŵp gwariant addysg Cyllideb 2025-26 Llywodraeth Cymru i'w gwario dros y flwyddyn ariannol bresennol?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 30/09/2025
Mae'r llinell wariant yn y gyllideb yn ariannu camau gweithredu i gyflawni ein hymrwymiad i gefnogi ysgolion a lleoliadau i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Yn 2025-26 mae'r gyllideb yn ariannu ystod o raglenni a phrosiectau, gan gynnwys cyllid ar gyfer Adnodd, rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru, rhaglen dysgu proffesiynol ar gynllunio'r cwricwlwm cenedlaethol, asesiadau personol, a'n dull o werthuso a monitro'r cwricwlwm.