WQ97418 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith prosiect Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ar wella safonau lles anifeiliaid, yn enwedig mewn perthynas â bridio cŵn heb drwydded, cysondeb gorfodi ar draws awdurdodau lleol, a hyder y cyhoedd mewn cyfundrefnau trwyddedu?

I'w ateb gan: Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig