WQ97393 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2025

A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad llawn o'r arian sydd wedi'i wario hyd yma ar baratoadau ar gyfer Diwygio'r Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 25/09/2025

Hyd at ddiwedd mis Awst, mae'r Comisiwn wedi gwario'r canlynol ar baratoadau ar gyfer Diwygio'r Senedd:

Pennawd y Gyllideb Swm (£m
Costau staff £0.871
Costau'r prosiect (gwaith ystadau) £3.810
Costau eraill £0.074
Cyfanswm £4.755

Mae costau'r prosiect yn cynnwys addasiadau i ddarparu ar gyfer 36 o swyddfeydd Aelodau ychwanegol yn Nhŷ Hywel hefyd, y gwaith i ddylunio ac ail-ffurfweddu'r brif Siambr ac ailgomisiynu Siambr Hywel fel siambr dros dro.

Mae holl waith y prosiect wedi bod drwy broses dendro gystadleuol i sicrhau'r gwerth gorau am arian.

Bu'n rhaid ail-ffurfweddu'r Siambr yn seiliedig ar adborth gan yr Aelodau mai '1 desg fesul Aelod' oedd y cynllun a ddymunir. Roedd hyn yn ei dro yn arwain at oblygiadau o ran hygyrchedd a darlledu.

Bydd mwyafrif helaeth yr offer sydd wedi’i brynu ar gyfer Siambr Hywel yn cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill ar yr ystâd pan fydd yr Aelodau'n dychwelyd i'r brif Siambr. Y dull a gymerwyd tuag at Siambr Hywel oedd osgoi gwariant diwerth lle bo hynny'n bosibl ac mae WQ96524 yn rhoi rhagor o fanylion ar y mater hwnnw.

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd