WQ97326 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2025

Ai cyhoeddiad Arcadis (Mawrth 2020) ‘Research into stalled sites in Wales’ yw’r cyhoeddiad diweddaraf ar y pwnc hwn gan Lywodraeth Cymru, neu a oes yna gyhoeddiadau diweddarach ac os felly ym mhle y gellir dod o hyd iddynt?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 23/09/2025

Ar ddechrau'r broses i geisio cymhwysedd ar gyfer treth ar dir gwag, neu dreth ar dir sy'n addas i'w ddatblygu, roedd cynnydd da, fodd bynnag, arafodd y cynnydd hwn o dan weinyddiaeth y Prif Weinidog Boris Johnson. Rwy'n ddiolchgar am yr ymgysylltiad newydd â Llywodraeth y DU a'r cynnydd a wnaed ers ei hethol. Rwy'n gobeithio cwrdd ag Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys i drafod cynigion Llywodraeth Cymru ynghylch cymhwysedd y Senedd ar gyfer y dreth hon ar dir sy'n addas i'w ddatblygu yn y dyfodol agos.

Nid oes unrhyw asesiad wedi'i gynnal hyd yn hyn ar ba refeniw y byddai treth ar dir sy'n addas i'w ddatblygu yn ei gynhyrchu yng Nghymru. Prif ddiben treth o'r fath fyddai newid ymddygiad yn hytrach na chynhyrchu refeniw sylweddol, er fel gyda phob treth ymddygiadol byddai rhywfaint o refeniw yn cael ei gynhyrchu.

Y cyhoeddiad 'Ymchwil i safleoedd segur yng Nghymru – Adroddiad terfynol – Mawrth 2020' yw'r dystiolaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Ymchwiliodd yr adroddiad hwn i safleoedd segur ledled Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu treth ar dir sy'n addas i'w ddatblygu.