Pa drethi newydd sydd wedi'u cyflwyno o dan Ddeddf Cymru 2017 hyd yma a pa drethi y mae'r Llywodraeth yn gweithio ar eu cyflwyno yn y dyfodol?
Dewiswyd treth ar dir gwag, neu dreth ar dir sy'n addas i'w ddatblygu, i brofi'r pwerau a nodir yn Neddf Cymru 2014. Mae'r cynnig hwn wedi bod yn ddarostyngedig i’r broses a nodir yn y Papur Gorchymyn a oedd yn cyd-fynd â Bil Cymru (Bil Cymru: Atebolrwydd a Grymuso Ariannol) ers mis Mawrth 2020.
Hyd yn hyn, nid oes unrhyw gynigion treth eraill wedi bod yn ddarostyngedig i’r broses yn Neddf Cymru 2014. Mae'r ardoll ymwelwyr, un arall o'r syniadau treth a ystyriwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru yn 2017, wedi'i chyflwyno drwy gymhwysedd presennol y Senedd i ddeddfu ar gyfer trethi lleol.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried sut y mae mesurau cyllidol, gan gynnwys trethi newydd ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, yn cefnogi amcanion polisi ehangach.