Ymhellach i WQ93640, a wnaiff Comisiwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf a chadarnhau faint o bobl sydd yn defnyddio system y Swyddfa Gyflwyno a faint sydd wedi rhagosod y system honno i’r rhyngwyneb Cymraeg?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 10/10/2025
Adam Price AS ar ran Comisiwn y Senedd:
Ar hyn o bryd mae cyfanswm o 249 o ddefnyddwyr cofrestredig system y Swyddfa Gyflwyno, sy'n cynnwys 59 o Aelodau, 163 o staff cymorth yr Aelodau a 27 o weinyddwyr.
Roedd y gallu i ddewis iaith ddiofyn yn un o nifer o uwchraddiadau i'r system a weithredwyd dros yr haf, gyda'r newid yn cael ei gyfathrebu i'r Aelodau ar ddiwedd y toriad.
O ddydd Llun 22 Medi, mae 2 Aelod, 5 aelod o staff cymorth a 6 gweinyddwr wedi gosod eu hiaith rhyngwyneb ddiofyn i'r Gymraeg.