WQ97319 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2025

Beth yw'r uchafswm y gall myfyriwr a) addysg uwch, b) addysg bellach dros 18 oed, ei hawlio mewn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ym mhob blwyddyn academaidd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 18/09/2025

Rwy’n ymateb i’r cwestiwn hwn ar ran y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch fel rhan o drefniant dirprwyo gweinidogol.

Mae Ymchwil y Senedd yn darparu cyhoeddiadau bob blwyddyn ynghylch cymorth i fyfyrwyr addysg uwch ac addysg  bellach: Canllawiau cyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-26. Fel y byddwch yn sylweddoli, bydd gwahanol symiau ar gael ar gyfer gwahanol lwybrau, yn ôl amgylchiadau’r unigolyn, incwm yr aelwyd (lle bo’n berthnasol) ac i ba raddau y cyflawnir y meini prawf cymhwysedd.