WQ97286 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2025

Pa weithdrefn sydd mewn lle i sicrhau bod Nodiadau Cyngor Technegol yn cael eu hadolygu yn gyfnodol fel mater o drefn a’u diwygio a’u diweddaru fel bo’r angen?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 17/09/2025

Mae fy swyddogion yn ymwneud â chydweithwyr ar draws y Llywodraeth a rhanddeiliaid allanol er mwyn sicrhau bod y Polisi Cynllunio yn cael ei adolygu’n barhaus.

Pan fo’r angen, caiff Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol ategol eu diwygio i sicrhau bod polisi cynllunio defnydd tir yn cefnogi ac yn cynorthwyo’n briodol o ran bodloni anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol Cymru.