Pam nad yw’r Nodyn Cyngor Technegol sydd yn cynnwys diffiniad Llywodraeth Cymru o gartref fforddiadwy wedi’i ddiweddaru ers 2006?
Mae Nodiadau Cyngor Technegol yn ategu Polisi Cynllunio Cymru (PPW), a ddiweddarwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2024. Mae paragraffau 4.2.26 a 4.2.27 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi’r diffiniad o dai fforddiadwy. Mae cyfeiriadau yn Nodyn Cyngor Technegol 2 (Cynllunio a Thai Fforddiadwy) yn gyson â Pholisi Cynllunio Cymru.
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cael ei adolygu’n barhaol mewn perthynas ag amcanion, strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei ddiwygio pan all newidiadau i bolisi cynllunio defnydd tir fod o gymorth i gyflawni’r canlyniadau hyn. Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi ei ddiweddaru 12 gwaith ers 2006.