Pa ystyriaeth sydd wedi’i roi i gysoni hyd oes cynlluniau datblygu lleol fel eu bod yn unfath drwy Gymru, gyda golwg i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwell cydlyniant a chydgynllunio strategol yn cynnwys o ran rhagamcanion poblogaeth a’r angen tybiedig am gartrefi?
Mae Cynlluniau Datblygu Strategol wedi cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau gwell cydlynu a deilliannau, gan gynnwys o ran rhagamcanion poblogaeth a’r angen tybiedig am gartrefi. Yn dilyn camau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol i fabwysiadu Cynlluniau Datblygu Strategol, bydd angen i Gynlluniau Datblygu Lleol gydymffurfio’n gyffredinol â Chynlluniau Datblygu Strategol, gan sicrhau gwell cydlynu a deilliannau ar draws y rhanbarth. Tan hynny, bydd Cynlluniau Datblygu Lleol yn parhau i adlewyrchu cyfnodau cynllunio a fabwysiadwyd yn flaenorol, sy’n angenrheidiol er mwyn gweithredu ar sail cynllun a gwneud penderfyniadau effeithiol.