A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa gymal neu gymalau o'r Contract Cyweirio gan Ddatblygwr sy'n galluogi i Lywodraeth Cymru neu rywrai arall fynd â datblygwr i'r llys i orfodi'r contract, ac o dan ba amgylchiadau y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny?
Gallai methiant gan unrhyw barti i gontract y datblygwr, mewn perthynas ag unrhyw gymal o’r contract sy’n gosod rhwymedigaethau arnynt, fod yn gyfystyr â thorri contract.
Mae’r ddogfen sy’n rhwymo mewn cyfraith a lodnodwyd gan y datblygwyr yn cynnwys gofyniad ar gyfer monitro. Os na fydd y telerau y cytunwyd arnynt yn cael eu bodloni, byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i’r afael â hyn.
Byddai unrhyw gamau gorfodi gan Weinidogion Cymru yn digwydd fesul achos ar ôl i’r mater sydd wedi arwain at dorri’r telerau gael ei ystyried,