A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet amlinellu faint o’r sector gofal pobl hŷn sydd a) mewn perchnogaeth gyhoeddus, b) mewn perchnogaeth breifat, neu c) mewn perchnogaeth elusennol neu debyg, a chyfanswm yr elw preifat a wneir o’r sector hwn bob blwyddyn?
Fel rhan o’r broses o gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, mae’r rheoleiddiwr, Arolygiaeth Gofal Cymru, yn casglu data yn ymwneud â strwythur llywodraethiant gwasanaethau gofal i oedolion fel cartrefi gofal i oedolion, darparwyr gwasanaethau gofal cartref a chynlluniau lleoli oedolion. Mae’r sefyllfa bresennol wedi’i nodi isod[1].
|
Math o ddarparwr |
Gwasanaeth Cartref Gofal |
Gwasanaeth Cymorth Cartref |
Cynllun Lleoli Oedolion |
|
Cwmni Elusennol |
49 |
81 |
2 |
|
Sefydliad Corfforedig Elusennol |
1 |
3 |
0 |
|
Ymddiriedolaeth Elusennol |
3 |
0 |
0 |
|
Darparwr Unigol |
27 |
4 |
0 |
|
Cwmni Cyfyngedig |
812 |
644 |
0 |
|
Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig |
6 |
0 |
0 |
|
Awdurdod Lleol |
92 |
22 |
6 |
|
Bwrdd Iechyd Lleol |
1 |
1 |
0 |
|
Partneriaeth |
21 |
4 |
0 |
|
Bwrdd Corfforaethol Arall |
14 |
7 |
0 |
|
Cyfanswm |
1026 |
766 |
8 |
Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth adrodd i’r rheoleiddiwr am eu helw blynyddol.
[1] Data gan Arolygiaeth Gofal Cymru 5 Medi 2025