Ymhellach i WQ89042, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynnydd y gwerthusiad o adolygiad Diamond, gan gynnwys ym mhle y gellir cael gafael ar ddogfennau cyfredol sydd wedi’u cyhoeddi fel rhan o’r adolygiad, a chwblhau’r adolygiad?
Cyhoeddwyd y diweddariad diweddaraf ar werthusiad Diamond ar 2 Gorffennaf 2025 ar dudalen we gwerthusiad Diamond. Mae'r dudalen we hefyd yn amlinellu manylion yr ymchwil a gomisiynwyd i gefnogi'r gwerthusiad ac rydym yn disgwyl i'r canfyddiadau gael eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2026 ar dudalen ymchwil ac ystadegau Llywodraeth Cymru. Mae gweithgareddau ychwanegol ar y gweill i gefnogi'r gwerthusiad o adolygiad Diamond a disgwylir i allbynnau pellach gael eu cyflawni yn 2026/27. Mae'r holl amserlenni ac allbynnau yn amodol ar argaeledd a mynediad at y data perthnasol.