WQ97256 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/09/2025

Sawl awdurdod lleol ac awdurdod parc cenedlaethol sydd â chynllun rheoli cyrchfan neu debyg, a pha ofyniad sydd ar y cyrff hyn i gael cynllun o’r fath?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 12/09/2025

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i Awdurdodau Lleol neu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (APCau) gynhyrchu eu cynlluniau rheoli cyrchfan eu hunain, fodd bynnag, mae disgwyliad eu bod yn nodi eu blaenoriaethau fel cyrchfan ymwelwyr. Mae'r trefniadau'n wahanol rhwng ardaloedd, fodd bynnag, mae gan y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol neu Gymdeithasau Twristiaeth Gynllun Rheoli Cyrchfan ar waith neu yn y broses o'u diweddaru ar hyn o bryd.

Mae APCau Eryri ac Arfordir Penfro yn cyfrannu at Gynlluniau Rheoli Cyrchfan  ehangach gyda phartneriaid gan gynnwys Awdurdodau Lleol, ac mae Bannau Brycheiniog yn datblygu ei Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy i symud mwy tuag at Gynllun Rheoli Cyrchfan.