WQ97254 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/09/2025

Beth yw'r cyfnod byrraf y gellir dyroddi contract meddiannaeth cyfnod penodol yng Nghymru o dan ddeddfwriaeth rhentu cartrefi Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 16/09/2025

Nid oes isafswm cyfnod rhagnodedig ar gyfer contract meddiannaeth cyfnod penodol o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Nid oes unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 sy'n ei gwneud yn ofynnol cofrestru contract meddiannaeth gyda Chofrestrfa Tir EF.