A yw'r Comisiwn wedi rhoi caniatâd i’r Llywodraeth ddefnyddio templedi a brand corfforaethol y Senedd i ddarparu ymatebion ysgrifenedig i argymhellion Pwyllgorau’r Senedd, a pha ystyriaeth roddwyd i’r perygl o greu dryswch ynghylch y dealltwriaeth o wahanol gyfrifoldebau y Senedd a’r Llywodraeth?
Mae'r Comisiwn wedi bod yn gweithio i wella hygyrchedd dogfennau a gyhoeddir ar ein gwefan i gynorthwyo pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Llywodraeth Cymru yw'r darparwr trydydd parti mwyaf cyffredin o ran gwybodaeth i'n pwyllgorau ac felly bu swyddogion y Comisiwn yn cysylltu â chydweithwyr yn y Llywodraeth gyda'r bwriad o ddarparu fformat hygyrch ar gyfer eu cyflwyniadau. Caiff y dogfennau hyn gan y Llywodraeth eu llwytho i dudalennau'r Pwyllgor ar wefan y Senedd ac mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod pob agwedd ar y wefan yn hygyrch. Ers yr hydref 2023, mae llawer o adrannau Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio templed, a ddatblygwyd gyda'r Comisiwn, i gyflwyno eu gwaith mewn ffordd sy'n gwella'n sylweddol ar arferion blaenorol – gan sicrhau bod rhagor o bobl yn gallu darllen gwybodaeth bwysig.
Er mwyn osgoi dryswch, dylai dogfennau Llywodraeth Cymru nodi'n glir eu bod yn dod gan Lywodraeth Cymru a chynnwys logo Llywodraeth Cymru. Bydd swyddogion y Comisiwn yn parhau i weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r templed mewn ffordd sy'n osgoi dryswch.
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd