WQ97248 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/09/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella’r seilwaith dŵr a charthffosiaeth, a faint o gyllideb sydd wedi’i neilltuo i weithredu’r cynlluniau hynny?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 16/09/2025

Yn y Cyfnod Rheoli Asedau hwn (2025–2030), mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r ddau gwmni dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru – Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Hafren Dyfrdwy – i gyflawni gwelliannau sylweddol i’r seilwaith dŵr a charthffosiaeth.

Mae Penderfyniadau Terfynol PR24 Ofwat yn nodi'r rhaglenni buddsoddi ar gyfer y ddau gwmni, gan gynnwys cynnydd sylweddol o'i gymharu â'r cyfnod blaenorol.

Mae'n ofynnol i'r ddau gwmni hefyd gyflwyno eu Cynlluniau Draenio a Rheoli Dŵr Gwastraff, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru ac sydd i'w gweld ar eu gwefannau priodol.

Mae'r rhaglen fuddsoddi hon yn gam sylweddol ymlaen, gan sicrhau bod seilwaith dŵr a charthffosiaeth Cymru yn fodern, yn wydn, ac yn gallu cefnogi anghenion cymunedau a'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau i ddod.