WQ97228 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/08/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran cyrraedd y targed i awdurdodau lleol fod ag un y cant o’u stoc tai rhent preifat yn rhan o Gynllun Lesio Cymru erbyn 2026, gan gynnwys faint o eiddo sydd ar les 5, 10, 15, neu 20 mlynedd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 09/09/2025

Ers mis Ebrill 2025, mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cofrestru i Gynllun Lesio Cymru. Ar y cyfan, rydym yn ceisio cyflawni’r targed o roi 1% o stoc y sector rhentu preifat ar y cynllun erbyn diwedd blwyddyn 5 (2027).

Ar hyn o bryd mae 430 o eiddo wedi'u cofrestru o dan y Cynllun gyda 159 o eiddo i ddod a 319 o ymholiadau newydd hyd yma eleni.

Mae nifer yr eiddo yn ôl hyd y les ar gael isod. Mae'n bwysig nodi bod rhai landlordiaid ag eiddo ar les fyrrach eisoes mewn trafodaethau i ymestyn eu cyfranogiad yn y cynllun:

Les (Blynyddoedd)

5

10

15

20

Nifer yr eiddo

370

17

17

26