Pa werthusiad a wnaed o weithrediad Ddeddf Tai (Cymru) 2014?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 02/09/2025
Fel Deddf gyfansawdd sy'n cwmpasu ystod o bynciau, nid oes un gwerthusiad wedi'i gynnal ar y Ddeddf gyfan.
Cyhoeddwyd gwerthusiad o Ran 1, ynglŷn â chofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantiaid gosod eiddo yn 2018 ac mae ar gael yn: Rhentu Doeth Cymru gwerthuso: Gweithrediad a Chyflenwad (adroddiad terfynol) | LLYW.CYMRU.
Cyhoeddwyd gwerthusiad o Ran 2 o'r Ddeddf, ynglŷn â digartrefedd, yn 2018 ac mae ar gael yn: Gwerthusiad o Ddeddfwriaeth Digartrefedd (Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014) | LLYW.CYMRU.