WQ97226 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/08/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu a adeiladwyd mwy o dai cyngor yng Nghymru rhwng 1945 a 1951, nag sydd wedi’u hadeiladu o 1975 ymlaen?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 09/09/2025

Mae gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd cyn 1974-75 ar gael yn y Crynhoad o Ystadegau Cymru:

[CYNNWYS ARCHIF] Llywodraeth Cymru | Crynhoad o ystadegau hanesyddol Cymru

Mae gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd ar ôl 1974-75 ar gael ar StatsCymru:

Anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl cyfnod a deiliadaeth

Sylwch fod ffigurau ar gyfer blynyddoedd cynharach (cyn 1958) yn cael eu cynhyrchu o ffynhonnell wahanol, ac am y rheswm hwn, nid ydynt yn uniongyrchol debyg i’r ffigurau ar gyfer blynyddoedd diweddarach.