Pryd y daw darpariaethau Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 sy'n cynnig gwarchodaeth i berchnogion tai rhydd-ddaliadol ar ystadau preifat, gan gynnwys y gofynion ynghylch trylowyder dros eu taliadau ystad a'r gallu i herio’r taliadau y maent yn eu talu drwy ddwyn achos gerbron tribiwnlys, i rym yng Nghymru?
Mae fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 4 Gorffennaf yn nodi fy uchelgais i berchnogion tai yng Nghymru elwa ar y diwygiadau a nodir yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 cyn gynted â phosibl. Bydd angen ymgynghori ymhellach a datblygu is-ddeddfwriaeth fanwl gan Weinidogion Cymru a'r DU.
Mae'r mwyafrif o ddarpariaethau Deddf 2024 sy'n ymwneud â gwarchodaeth i berchnogion tai rhydd-ddaliadol ar ystadau preifat yn gofyn am is-ddeddfwriaeth i Weinidogion y DU wneud is-ddeddfwriaeth cyn y gellir eu gweithredu. Cyhoeddodd Matthew Pennycook AS, Gweinidog Gwladol y DU dros Dai a Chynllunio, Ddatganiad Ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2024 a oedd yn cynnwys manylion ar drefn gweithredu'r Ddeddf. Mae hyn ar gael yn: Datganiadau ysgrifenedig - Cwestiynau, atebion a datganiadau ysgrifenedig - Senedd y DU. Gweinidogion Cymru sydd â’r pwerau gwneud rheoliadau sy'n ymwneud â'r gofyniad newydd i gyhoeddi atodlenni ar gyfer ffioedd gweinyddol sy'n daladwy mewn perthynas â thaliadau rheoli ystadau rhydd-ddaliadol. Bydd ymgynghoriad ar y darpariaethau hyn yn cael ei gyhoeddi yn Ymgyngoriadau | LLYW. CYMRU.
Bydd Rhan 5 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn galluogi perchnogion tai rhydd-ddaliadol i wneud cais i'r 'tribiwnlys priodol' i herio'r ffioedd y maent yn eu talu. Yng Nghymru, bydd y tribiwnlys hwnnw'n dribiwnlys prisio lesddaliad. Mae rhagor o wybodaeth am dribiwnlysoedd prisio lesddaliadau ar gael yn: Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau | Tribiwnlys Eiddo Preswyl.
Nid yw'r gofyniad newydd yn Neddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn gymwys yng Nghymru oherwydd nad oedd y darpariaethau presennol sy'n ymwneud â chwmnïau rheoli eiddo hefyd yn cael eu cymhwyso i Gymru pan gawsant eu cyflwyno yn 2014. Mae darpariaethau yn Rhan 6 o Ddeddf 2024, sy'n cynnwys rheoliad sy'n gwneud pŵer lle gall yr Ysgrifennydd Gwladol ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau rheoli ystadau yn Lloegr fod yn perthyn i gynllun gwneud iawn, yn adeiladu ar ofyniad statudol presennol i bersonau penodol sy'n ymwneud â gwaith rheoli eiddo yn Lloegr fod yn perthyn i gynllun gwneud iawn.