WQ97215 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/08/2025

Ymhellach i WQ97116, beth yw dealltwriaeth yr Ysgrifennydd Cabinet o resymeg cyfyngu’r newid i Loegr yn unig, a pha effeithiau posib allai'r polisi ei gael ar brynu tir yn orfodol yng Nghymru gan gynnwys pa mor ddichonadwy yw gwneud hynny at ddibenion datblygu rhagor o dai cymdeithasol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 29/08/2025

Gallaf gadarnhau bod y dull a gymerwyd yn adlewyrchu Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig sy'n nodi y dylai is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan Weinidogion Cymru. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer o dan adran 33K o Ddeddf Digollediad Tir 1973 i ddiwygio'r symiau neu'r canrannau ar gyfer taliadau sylfaenol am golled a thaliadau colled i feddiannydd sy'n ymwneud â thir yng Nghymru. Mae'r cymal yn sicrhau bod iawndal a ddyfarnwyd i'r rhai y mae eu tir neu eiddo yn destun pryniant gorfodol yn adlewyrchu'r aflonyddwch a'r anghyfleustra y maent yn eu profi.

Felly, ni fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar ddarparu tai cymdeithasol gan y byddai lefel y digollediad sy'n deillio o brynu gorfodol yn aros yr un fath. Mater i Lywodraeth yn y dyfodol fydd ystyried a oes angen newidiadau o'r fath ar gyfer Cymru.