Sut mae Comisiwn y Senedd yn sicrhau bod y baneri y mae'n eu prynu yn dod o fusnesau a chyflenwyr o Gymru?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 10/09/2025
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Pryd bynnag y bo modd, rydym bob amser yn ceisio rhoi cyfle i gyflenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru gynnig am ein busnes. Mae Comisiwn y Senedd yn prynu ei faneri gan gwmni o Gymru, sy'n cynhyrchu eu baneri ar y safle yng Nghymru (y De-orllewin).
Ar achlysuron prin iawn, bu’n angenrheidiol cael baneri argraffiad cyfyngedig a baneri pwrpasol gan elusennau a sefydliadau, yn uniongyrchol.