A yw’r asesiad effaith llawn o Ddeddf Rhenti Cartrefi (Cymru) 2016 wedi’i gwblhau eto, a phryd y caiff ei gyhoeddi, o ystyried fod disgwyl iddo gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2025?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 28/08/2025
Mae adroddiadau Cam 1 a Cham 2 y gwerthusiad tair blynedd o'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) wedi'u cyhoeddi ac maent ar gael ar: Gwerthusiad o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 | LLYW.CYMRU.
Mae'r cyfeiriad at "Cam 3 (Hydref 2024 – Gorffennaf 2025)" a nodir yn adroddiadau gwerthuso Cam 1 a Cham 2 yn arwydd o pryd y disgwylir i waith maes gael ei gynnal, yn hytrach na phryd y bydd y cyhoeddi terfynol. Bydd adroddiad y trydydd cam a cham olaf y gwerthusiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.