WQ97190 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/08/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut y gall rhywun wneud cais am gartref sy’n rhan o Gynllun Lesio Cymru. ac a yw’r rhent mae’r tenant yn ei dalu wedi’i gapio fel y cyfraddau lwfans tai lleol yn eu hardal?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 03/09/2025

Mae eiddo Cynllun Lesio Cymru yn cael ei ddyrannu fel rhan o broses awdurdod lleol ar gyfer dyrannu tai. Mae pob eiddo Cynllun Lesio Cymru sydd o dan berchnogaeth awdurdod lleol yn cael ei osod ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol sy’n gymwys i’r ardal.