WQ97189 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/08/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi testun contract Llywodraeth Cymru gyda datblygwyr i adfer adeiladau diffygiol o ran eu diogelwch tân, a nodi'r datblygwyr sydd heb ei arwyddo eto?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 02/09/2025

Mae’r Contract Datblygwyr ar gael yma: Contract Cyweirio gan Ddatblygwr: ffurflen | LLYW.CYMU

Yn dilyn trafodaethau â dros 50 o ddatblygwyr mae pob un ond un o’r datblygwyr a nodwyd bod ganddyn nhw adeiladau sydd angen gwaith cyweirio wedi llofnodi Contract Llywodraeth Cymru. Mae Westmark wedi gwrthod llofnodi’r contract, ond maen nhw wedi darparu ymrwymiad ysgrifenedig i wneud y gwaith sydd ei angen ac adrodd ar y cynnydd i Lywodraeth Cymru yn yr un modd â’r datblygwyr hynny sydd wedi’u llofnodi.