Pa ystyriaeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i roi i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 17 Mehefin 2025 ynghylch sefydlu banc tai cenedlaethol, gan gynnwys ei oblygiadau i Gymru ac unrhyw fecanwaith ariannu cyfatebol yng Nghymru i hwyluso darparu tai cymdeithasol?
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ymwneud â gweithgarwch i fanteisio ar fuddsoddi preifat, darparu hyblygrwydd i wneud buddsoddiadau hir dymor a chefnogi Busnesau Bach a Chanolig â chynnyrch benthyca sy’n galluogi datblygwyr i ddatgloi safleoedd cymhleth.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gyda Banc Datblygu Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatblygu tai mwy fforddiadwy, gan gynnwys yr hyn a argymhellir gan y Tasglu Tai Fforddiadwy.
Rydym yn gweithio gyda’n swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i archwilio cyfleoedd sy’n codi o sefydlu Banc Tai Cenedlaethol a dulliau gweithredu eraill. Nod hyn yw cyd-fynd â’r gwaith diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud i archwilio sut i ddefnyddio cyllid arall i gefnogi tai fforddiadwy o ansawdd.