A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith yr adroddwyd amdano i’r Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol ar 18 Medi 2024, fel y gwelir ym mharagraff 174 y trawsgrifiad, ar ddatblygu strategaeth tir i Gymru?
Mae gwaith yn parhau i ddatblygu ein strategaeth tir hirdymor, ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd da wrth lunio ein hegwyddorion terfynol ar gyfer caffael tir. Mae’r gwaith hwn hefyd yn cael ei lywio gan argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy mewn perthynas â thir, gan gynnwys rhagor o gydweithio ar draws y sector cyhoeddus ynghylch nodi tir a rhannu gwybodaeth.
Ar yr un pryd, gan adeiladu ar brynu safleoedd yn strategol yn Hwlffordd a Phorthcawl, rydyn ni’n parhau i nodi safleoedd priodol eraill ledled Cymru y gellid eu caffael, lle mae angen ac mae’r farchnad wedi methu, i gyflymu’r gwaith o ddatblygu tai fforddiadwy.