WQ97161 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/08/2025

A yw Llywodraeth Cymru yn rhoi unrhyw gyllideb blynyddol i’r cydbwyllgorau corfforaethol yn uniongyrchol, ac os felly, faint?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 28/08/2025

Darparodd Llywodraeth Cymru £250,000 i bob rhanbarth yn 2021/22 i gefnogi'r gwaith o sefydlu'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs). Y cyllid dilynol a ddarparwyd oedd £125,000 yn 2023/24 a £100,000 yn 2024/25 i bob rhanbarth tuag at ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chynlluniau Datblygu Strategol (SDPs), yn y drefn honno.

Yn 2025/26, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu hyd at £200,000 i bob CJC i gryfhau capasiti a threfniadau llywodraethu; hyd at £200,000 ar gyfer pob CJC i gefnogi'r gwaith o gwblhau Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol; a hyd at £400,000 i gyd rhwng y CJCs i gyflymu'r gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol, ar yr amod eu bod yn cyflwyno drafft ac yna Cytundeb Cyflawni y cytunwyd arni yn ffurfiol o fewn y flwyddyn ariannol hon. Mae cyllid yr SDP yn dibynnu ar fodloni y meini prawf hyn.