WQ97160 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/08/2025

Faint o dai cymdeithasol y mae a) cymdeithasau tai a b) awdurdodau lleol wedi’u gwerthu yn ystod y Senedd hon ac a oes gan Lywodraeth Cymru y pŵer i atal unrhyw werthiannau pellach?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 28/08/2025

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau ar faint o werthiannau sydd wedi'u cwblhau gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol. Gweler y ddolen i'r wybodaeth a gyhoeddwyd Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 [HTML] | LLYW.CYMRU.  Mae'r datganiad nesaf wedi'i gyhoeddi yn ddiweddar.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol geisio caniatâd o dan Adran 32 o Ddeddf Tai 1985 i gael gwared ar unrhyw dai cymdeithasol. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau i hyn, er enghraifft, nid oes angen caniatâd pan fydd eiddo yn cael ei drosglwyddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o dan raglenni trosglwyddo stoc cymeradwy.

Dilëodd Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 y gofyniad i Landlordiaid Cofrestredig Cymdeithasol (LCC) gael caniatâd gan Weinidogion Cymru i waredu eiddo a thir. Yn hytrach, cyflwynodd y Ddeddf ofyniad i LCC hysbysu Gweinidogion Cymru am waredu mewn amgylchiadau penodol arbennig gan gynnwys cartrefi sy'n cael eu gwaredu allan o'r sector.