Ymhellach i WQ96990, wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau’r swm a fuddsoddwyd ym mhob un o’r tair blwyddyn ariannol diwethaf ar gyfer gwasanaethau cynghori mewn meysydd o flaenoriaeth, rhoi manylion y rhaglenni perthnasol, a’u traweffaith?
Cyngor ar Fewnfudo
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o £120,000 i gefnogi gwaith darparwyr cyngor cyfreithiol ar fewnfudo yng Nghymru. Mae gwerthusiad yn rhan o’r prosiectau hyn. Mae hyn yn cynnwys:
- Dim cyllid yn 2022-23
- Dim cyllid yn 2023-24
- £120,000 yn 2024-25.
Cyngor ar Les Cymdeithasol
Mae cyfanswm o £39,062,394 wedi'i fuddsoddi mewn fframwaith o wasanaethau cyngor ar les cymdeithasol a ddarperir drwy'r Gronfa Gynghori Sengl (SAF). Mae hyn yn cynnwys:
- £12,564,685 yn 2022-23
- £13,220,760 yn 2023-24
- £13,276,949 yn 2024-25.
Yn ystod y tair blynedd ariannol hyn, cefnogodd gwasanaethau SAF gyfanswm o 274,486 o bobl, gan eu helpu i hawlio £140 miliwn mewn incwm ychwanegol ac i ddileu £30m o ddyled.
Cyngor ar Dai
Ar hyn o bryd mae Shelter Cymru yn cael ei ariannu gan grant i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor digartrefedd Cymru gyfan tan 31 Mawrth 2026. Mae hyn yn cynnwys:
- £1,367,443 yn 2022-23
- £1,448,222 yn 2023-24
- £1,438,504 yn 2024-25.