WQ97150 (d) Wedi’i gyflwyno ar 13/08/2025

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd mewn ymateb i'r tueddiadau a welir yn nata mynegai prisiau rhenti preifat (PIPR) yr ONS dros y deuddeg mis diwethaf, sy'n awgrymu y cynyddodd rhenti yn gyflymach yng Nghymru nag yn unman arall yn y DG, gan gynnwys dros 20% yng Nghasnewydd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 28/08/2025

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, er bod rhenti wedi cynyddu ar gyfartalog, fod rhenti yng Nghymru yn parhau i fod yr isaf yn y Deyrnas Unedig.

Roed ein ‘Papur Gwyn ar sicrhau llwybr tuag at dai digonol, gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd’ yn amlinellu’r angen am ddata gwell am renti i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol. Mae’r Crynodeb o Ymatebion a’r Camau Nesaf, a gafodd eu cyhoeddi ar 16 Gorffennaf 2025, yn amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i wella data am renti.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yng Nghynllun Lesio Cymru, gyda phob un o’r 22 awdurdod lleol bellach wedi ymuno â’r cynllun. Mae’r cynllun yn darparu deiliadaeth fwy diogel, rhent fforddiadwy a chymorth ar gyfer tenantiaid.