A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau sut mae’r ymateb a roddwyd i WQ97074 yn gyson â'r wybodaeth a gynhwysir ym Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) Llywodraeth Cymru ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) fod yna oddeutu 530 o gartrefi yng Nghymru mewn perchnogaeth a dan reolaeth darparwyr cymdeithasol cofrestredig o Loegr?
Nid yw Llywodraeth Cymru yn dal gwybodaeth gyfredol am gyfanswm nifer y cartrefi yng Nghymru sy'n eiddo i Gymdeithasau Tai Lloegr ac yn cael eu rheoli ganddynt. Mae hyn yn cael ei ddal gan y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol, y gofynnwyd am wybodaeth oddi wrtho yn 2022 i gefnogi ystyried SLCM (Rhif 3) ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).
Ym mis Tachwedd 2022, roedd tua 530 o gartrefi yng Nghymru yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Lloegr ac yn cael eu rheoli ganddynt, fodd bynnag, bydd y ffigur hwn wedi newid gan fod gwerthiannau a throsglwyddiadau rhwng cymdeithasau tai wedi bod ers hyn.