WQ97133 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

Yn dilyn WQ96884, a welwyd cynnydd mewn niferoedd Torgoch yn sgil gwella’r safleoedd silio yn Llanberis?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 18/08/2025

Cafodd y gwaith i wella’r ardal silio yn Afon y Bala trwy ledu’r sianel a gosod graean sefydlog dan ddŵr ei wneud gan Engie (Pwerdy Dinorwig) yn 2021. Roedd yn rhan o strategaeth tymor hir i wella a chynyddu cynefin silio’r Torgoch yn Llyn Padarn.

 

Ychwanegir at niferoedd y Torgoch yn Llyn Padarn trwy ryddhau pysgod ifanc a fagwyd ar ôl casglu wyau a semen Torgoch llawndwf.

 

Yr unig ffordd ddibynadwy o amcangyfrif faint o Dorgoch sydd yn Llyn Padarn yw trwy gynnal arolwg sain o’r llyn o gwch arbenigol. Gellid defnyddio arolwg DNA amgylcheddol yn y dyfodol i fesur cyfran y Torgoch o’u cymharu â physgod eraill. 

Mae canlyniadau’r arolwg sain a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n cael eu dadansoddi gan dîm monitro o arbenigwyr.