WQ97127 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

Pam y mae swyddi Awdurdod Cyllid Cymru yn cael eu hysbysebu ar wefan swyddi'r gwasanaeth sifil Prydeinig yn lle gwefan swyddi Llywodraeth Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 20/08/2025

Adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru yw Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Mae ACC a gweddill adrannau Llywodraeth Cymru yn hysbysebu eu swyddi ar wefan swyddi'r Gwasanaeth Sifil, sy'n cynnig gwasanaeth recriwtio dwyieithog. Mae'r ddau sefydliad yn darparu dolenni i wefan swyddi'r Gwasanaeth Sifil ar eu gwefannau.