A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a yw hepgor cymal 102 o'r Bil Cynllunio a Seilwaith sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd, o Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, yn golygu bod darpariaeth y Bil ar leihau iawndal o 7.5 y cant i 2.5 y cant yn gymwys i Loegr yn unig?
Gallaf gadarnhau bod cymal 102(2) o'r Bil Cynllunio a Seilwaith yn newid y darpariaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("Deddf 1973"), sy'n darparu ar gyfer taliadau colledion sylfaenol i'w gwneud i berson sydd â buddiant cymwys mewn tir yn Lloegr yn unig, pan fo'r buddiant hwnnw'n destun caffael gorfodol ac i'r graddau nad oes ganddo hawl i daliad colled cartref mewn perthynas ag unrhyw ran o'r buddiant. Mae'r taliad colledion sylfaenol (fel y nodir yn adran 33A o Ddeddf 1973) y caiff personau cymwys ei hawlio i'w ostwng i 2.5% (o 7.5%) o werth marchnadol eu buddiant yn y tir yn Lloegr, gydag uchafswm o £25,000 (gostyngiad o £75,000).