WQ97115 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

A fydd pob plentyn dwy flwydd oed yng Nghymru yn cael cynnig gofal plant am ddim fel rhan o raglen Dechrau’n Deg erbyn diwedd tymor y Senedd hon?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 18/08/2025

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru bellach wedi dechrau gweithio ar Gam 3 y rhaglen i ehangu gofal plant o ansawdd uchel Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru i blant 2 oed ledled Cymru.

Yn ddiweddar, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn nodi cynnydd rhaglen ehangu Dechrau'n Deg.

Bydd y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud tuag at ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg i bob plentyn 2 oed yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Mae'r rhain yn cynnwys y cynlluniau ehangu y maent wedi'u datblygu, eu dyraniad cyllid, y nifer a gyrhaeddwyd hyd yma a'r nifer sy'n manteisio ar y gofal plant yng Nghamau 2 a 3. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r rhaglen ehangu'n agos wrth i Gam 3 barhau i fynd rhagddo.