WQ97111 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

A wnaiff y Llywodraeth roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd ar yr ymrwymiad i ystyried pa seilwaith sydd ei angen er mwyn paratoi at ddatganoli gweinyddiaeth lles, gan gynnwys unrhyw waith y mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi’i wneud?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 18/08/2025

Ym mis Mai 2025, comisiynwyd ymchwil i weld sut y gellid datganoli gweinyddiaeth nawdd cymdeithasol i Lywodraeth Cymru gan asesu'r manteision a'r canlyniadau posibl. Bydd yr ymchwil hefyd yn ystyried y seilwaith sydd ei angen i sicrhau bod gweinyddiaeth budd-daliadau nad ydynt wedi'u datganoli yn cyd-fynd â'r egwyddorion a nodir yn Siarter Budd-daliadau Cymru.

Nid yw Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi gwneud gwaith pellach yn y maes hwn ar ran Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi eu hadolygiad cyflym yn 2020.