WQ97110 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/08/2025

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n rheoleiddio bwriad gan gymdeithasau tai i uno, ac a yw'r fframwaith hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn y gall dwy neu ragor o gymdeithasau tai uno?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 28/08/2025

Mae Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 yn nodi'r gofynion i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru pe bai LCC yng Nghymru yn uno. Mae LCC yn sefydliadau ymreolaethol gyda Byrddau annibynnol sy'n gwneud penderfyniadau strategol. Felly, nid yw'n ofynnol iddynt gael cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru cyn uno.

Fodd bynnag, mae Fframwaith Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn nodi'r safonau y disgwylir i LCC eu dangos, ac mae'r safonau hyn yn cael eu monitro'n agos cyn i uno ddigwydd. Mae Dyfarniad Rheoleiddiol Interim yn cael ei gyhoeddi yn fuan ar ôl uno yn seiliedig ar farn y Rheoleiddiwr ar gydymffurfio â'r safonau hyn yn ystod y broses uno.