WQ97109 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau, dros y tair blynedd diwethaf, a) faint o arian sydd wedi’i gasglu mewn dirwyon neu gosbau yn deillio o erlyniadau troseddol yn erbyn landlordiaid yng Nghymru, b) faint o orchmynion ad-dalu rhent a roddwyd yn deillio o hynny, ac c) beth oedd cyfanswm eu gwerth y gorchmynion ad-dalu rhent?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 19/08/2025

Nid ydym yn casglu gwybodaeth am erlyniadau troseddol yn erbyn landlordiaid yng Nghymru ac nid oes gennym wybodaeth chwaith am nifer neu werth y dirwyon a godwyd yn erbyn y landlordiaid hyn.

O ran erlyniadau sy’n ymwneud â Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014, mae Rhentu Doeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am y camau y maent wedi’u cymryd. Mae’r wybodaeth honno ar gael yma: Dangosfwrdd Gorfodi - Rhentu Doeth Cymru

Mae’n bwysig nodi bod y wybodaeth a ddarperir uchod yn cynnwys y camau a gymerir yn erbyn landlordiaid a/neu eu hasiantwyr. Nid yw Rhentu Doeth Cymru yn gwahaniaethu rhyngddynt.

Mae rhai awdurdodau lleol yn erlyn hefyd ar gyfer troseddau Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, ond fel arfer dim ond pan gyfunir hynny ag erlyniad ehangach yn ymwneud â throseddau tai difrifol eraill yn erbyn landlord a/neu asiant. Nid oes gennym wybodaeth am y camau hyn.

Gall awdurdodau lleol neu’r tenantiaid eu hunain gyflyno Gorchmynion Ad-dalu Rhent yn dilyn erlyniad llwyddiannus. Nid oes gennym ffigurau ar gyfer hyn.