WQ97108 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

Yn dilyn WQ93601, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ble y gellir gweld y gwerthusiad y cyfeiriwyd ato yn yr ateb hwnnw o ystyried y disgwyliwyd ei gyhoeddi erbyn haf 2025?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 18/08/2025

Mae’r gwerthusiad o brosiectau’r Economi Sylfaenol 2024-2025 yn dal i fynd rhagddo a disgwylir ei gwblhau ym mis Hydref. Er i’r prosiectau ddod i ben ym mis Mawrth, ni ddaeth yr hawliadau terfynol na’r adroddiadau terfynol i law tan fis yn ddiweddarach.  

Mae’n braf cael nodi bod y prosiectau bwyd wedi esgor ar ganlyniadau positif. Yn eu plith:

  • Mae 1119 o swyddi wedi’u diogelu yn y sector bwyd, trwy’r cynllun grantiau achredu bwyd sy’n cael ei redeg gan Mentera a helpodd 73 o fusnesau bwyd i gael yr achrediad sydd ei angen i gael cyflenwi’r sector cyhoeddus, gan helpu i ddatblygu sylfaen gadarnach o gyflenwyr Cymreig.
  • Rydyn ni wedi llwyddo i gryfhau’r berthynas rhwng tyfwyr a chyfanwerthwyr trwy’r prosiect Llysiau o Gymru i Ysgolion. Bu Synnwyr Bwyd Cymru’n gweithio gyda Castell Howell i gyflogi 8 tyfwr i ddarparu 200,000 o ddognau o lysiau organig i 219 o ysgolion mewn 6 Awdurdod Lleol.
  • Mae prosiect Larder Cymru wedi gweithio gydag 8 Awdurdod Lleol yng Nghymru, i adolygu ac ail-lunio’u bwydlenni ysgol i gynnwys mwy o gynnyrch tymhorol o Gymru. Yr awdurdod cyntaf i wneud oedd Cyngor Caerffili ac o ganlyniad, maent wedi dyblu eu gwariant ar fwyd o Gymru.

Diolch i brosiect Tech Tyfu Menter Môn, mae Fresh & Tasty Microgreens wedi ehangu eu busnes yn Abergele i gyflenwi microlysiau, saladau a blodau bwytadwy i 6 sir yn y Gogledd. Hefyd, gan ddefnyddio offer Menter Môn, mae’r cwmni Fungi Foods yn cynhyrchu ac yn marchnata madarch Mwng Llew, gan gyflenwi 20,000 o becynnau i Aldi.