WQ97107 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

Yn dilyn WQ95770, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r amserlen ddiweddaraf gyfer yr ymgynghoriad Rhan L o'r rheoliadau adeiladu a chadarnhau a fydd yn cynnwys cynigion i orfodi gosod paneli solar ar bob tŷ newydd a gosod systemau gwresogi nad ydynt yn defnyddio olew na nwy?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 22/08/2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar adolygiad o Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu, ac mae’r fersiwn derfynol o’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei llunio. Disgwylir y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yr haf hwn, a bydd yn cynnwys manylion technegol llawn y cynigion. 

Er mwyn darparu llwybr clir ar gyfer y diwydiant, roedd ein hymgynghoriad blaenorol o Ran L yn pwysleisio ei bod yn ofynnol i bob cartref newydd fod â system wresogi carbon isel (fel bwmp gwres) i fodloni’r safon Rhan L a gynigir. 

Roedd ein diwygiadau blaenorol i Ran L yn 2022 yn cynnwys paneli solar yn y fanyldeb adeiladu dybiannol sy’n gosod y targed ynni. Er nad yw hyn yn orfodol mae’n annog defnyddio ynni adnewyddadwy mewn anheddau newydd.