WQ97106 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

A wnaiff y Llywodraeth gyhoeddi’r tri phapur a luniwyd yn unol ag ymrwymiad 10 y cytundeb cydweithio i ddadansoddi cadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol | Wedi'i ateb ar 12/08/2025

Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi’r papurau gan eu bod wedi’u datblygu at ddefnydd mewnol i helpu â llywio polisi. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar y rheoliadau drafft ynghylch pa wybodaeth y dylid ei chynnwys yn yr adroddiadau blynyddol ar gaffael cymdeithasol gyfrifol, sydd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am dri mis.